Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:   Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y Memoranda Esboniadol a’r Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Offerynnau Statudol a osodir yn ddwyieithog gerbron y Senedd. Mae Rheol Sefydlog 15.4 o’r Senedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob dogfen gael ei gosod yn ddwyieithog cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, ac mae Safon 47 o Safonau’r Gymraeg (y dyletswyddau statudol a osodir ar Weinidogion Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg) yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried y pwnc a’r gynulleidfa a ragwelir ar gyfer dogfennau penodol wrth flaenoriaethu eu cyfieithu. Yn unol â chanllawiau a ddarparwyd gan swyddfa’r Comisiynydd (yn y Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015), wrth flaenoriaethu pa ddogfennau i’w cyfieithu ar yr adeg hon, gwnaethom ystyried materion megis a oedd y Rheoliadau yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y Gymraeg yn uniongyrchol, a oedd y Rheoliadau o ddiddordeb mawr i grwpiau o siaradwyr Cymraeg yn benodol, ac a fyddai cyfran uchel o gynulleidfa’r dogfennau yn siarad Cymraeg. Gan fod y Rheoliadau yn dechnegol eu natur ac y byddant ond yn effeithio ar gyfran hynod fach o’r boblogaeth, nid ystyriwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i gyfieithu’r Memorandwm Esboniadol ar yr adeg hon.